Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Senedd
Dyddiad: Dydd Iau,
19 Tachwedd 2015
Amser: 09.20 -
11.35
Gellir gwylio’r cyfarfod
ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/3324
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Alun Davies AC John Griffiths AC Altaf Hussain AC Elin Jones AC Darren Millar AC Lynne Neagle AC (Cadeirydd dros dro) Gwyn R Price AC Joyce Watson AC (yn lle David Rees AC) Lindsay Whittle AC Kirsty Williams AC |
Staff y Pwyllgor: |
Llinos Madeley (Clerc) Catherine Hunt (Ail Glerc) Sian Giddins (Dirprwy Glerc) Gareth Howells (Cynghorydd Cyfreithiol) Amy Clifton (Ymchwilydd) Philippa Watkins (Ymchwilydd) |
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod.
1.1 Oherwydd bod David Rees, Cadeirydd y Pwyllgor wedi anfon ei ymddiheuriadau, gofynnodd y Clerc am enwebiadau ar gyfer ethol Cadeirydd dros dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22. Enwebodd Elin Jones, gyda chefnogaeth Gwyn Price, Lynne Neagle, ac fe'i hetholwyd.
2.1 Roedd Joyce Watson yn dirprwyo ar ran David Rees.
3.1a Nododd y Pwyllgor y cofnodion.
3.2a Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol.
4.1 Derbyniwyd y cynnig.
1.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y drefn o ystyried trafodion Cyfnod 2 Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru).
6.1 Trafododd y Pwyllgor lythyr drafft i'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol a chytuno arno.
7.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft. Cytunodd y Pwyllgor i drafod yr adroddiad drafft eto yn ei gyfarfod ar 25 Tachwedd 2015.
8.1 Cwblhaodd y Pwyllgor ei fusnes ar gyfer 19 Tachwedd cyn yr egwyl ginio.